Genesis 8:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Duw a gofiodd Noa, a phob peth byw, a phob anifail a'r a oedd gydag ef yn yr arch: a Duw a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaear, a'r dyfroedd a lonyddasant.

2. Caewyd hefyd ffynhonnau'r dyfnder a ffenestri'r nefoedd; a lluddiwyd y glaw o'r nefoedd.

3. A'r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaear, gan fyned a dychwelyd: ac ymhen y deng niwrnod a deugain a chant, y dyfroedd a dreiasai.

Genesis 8