Genesis 7:10-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Ac wedi saith niwrnod y dwfr dilyw a ddaeth ar y ddaear.

11. Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noa, yn yr ail mis, ar yr ail dydd ar bymtheg o'r mis, ar y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri'r nefoedd a agorwyd.

12. A'r glaw fu ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos.

13. O fewn corff y dydd hwnnw y daeth Noa, a Sem, a Cham, a Jaffeth, meibion Noa, a gwraig Noa, a thair gwraig ei feibion ef gyda hwynt, i'r arch;

14. Hwynt, a phob bwystfil wrth ei rywogaeth, a phob anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear wrth ei rywogaeth, a phob ehediad wrth ei rywogaeth, pob aderyn o bob rhyw.

15. A daethant at Noa i'r arch bob yn ddau, o bob cnawd a'r oedd ynddo anadl einioes.

16. A'r rhai a ddaethant, yn wryw a benyw y daethant o bob cnawd, fel y gorchmynasai Duw iddo. A'r Arglwydd a gaeodd arno ef.

17. A'r dilyw fu ddeugain niwrnod ar y ddaear; a'r dyfroedd a gynyddasant, ac a godasant yr arch, a hi a godwyd oddi ar y ddaear.

18. A'r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a gynyddasant yn ddirfawr ar y ddaear; a'r arch a rodiodd ar wyneb y dyfroedd.

19. A'r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaear, a gorchuddiwyd yr holl fynyddoedd uchel oedd tan yr holl nefoedd.

20. Pymtheg cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd tuag i fyny: a'r mynyddoedd a orchuddiwyd.

21. A bu farw pob cnawd a ymlusgai ar y ddaear, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid, ac yn fwystfilod, ac yn bob rhyw ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear, a phob dyn hefyd.

Genesis 7