1. Yna y syrthiodd Joseff ar wyneb ei dad, ac a wylodd arno ef, ac a'i cusanodd ef.
2. Gorchmynnodd Joseff hefyd i'w weision, y meddygon, berarogli ei dad ef: felly y meddygon a beraroglasant Israel.
3. Pan gyflawnwyd iddo ddeugain niwrnod, (canys felly y cyflawnir dyddiau y rhai a beraroglir,) yna yr Eifftiaid a'i harwylasant ef ddeng niwrnod a thrigain.