Genesis 5:27-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. A holl ddyddiau Methwsela oedd naw mlynedd a thrigain a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.

28. Lamech hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chan mlynedd, ac a genhedlodd fab;

29. Ac a alwodd ei enw ef Noa, gan ddywedyd, Hwn a'n cysura ni am ein gwaith, a llafur ein dwylo, oherwydd y ddaear yr hon a felltigodd yr Arglwydd.

30. A Lamech a fu fyw wedi iddo genhedlu Noa, bymtheng mlynedd a phedwar ugain a phum can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

Genesis 5