7. Melltigedig fyddo eu dig, canys tost oedd; a'u llid, canys creulon fu: rhannaf hwynt yn Jacob, a gwasgaraf hwynt yn Israel.
8. Tithau, Jwda, dy frodyr a'th glodforant di: dy law fydd yng ngwar dy elynion; meibion dy dad a ymgrymant i ti.
9. Cenau llew wyt ti, Jwda; o'r ysglyfaeth y daethost i fyny, fy mab: ymgrymodd, gorweddodd fel llew, ac fel hen lew: pwy a'i cyfyd ef?
10. Nid ymedy'r deyrnwialen o Jwda, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddĂȘl Seilo; ac ato ef y bydd cynulliad pobloedd.