Genesis 49:18-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Am dy iachawdwriaeth di y disgwyliais, Arglwydd.

19. Gad, llu a'i gorfydd; ac yntau a orfydd o'r diwedd.

20. O Aser bras fydd ei fwyd ef, ac efe a rydd ddanteithion brenhinol.

21. Nafftali fydd ewig wedi ei gollwng, yn rhoddi geiriau teg.

22. Joseff fydd gangen ffrwythlon, cangen ffrwythlon wrth ffynnon, ceinciau yn cerdded ar hyd mur.

Genesis 49