Genesis 49:17-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Dan fydd sarff ar y ffordd, a neidr ar y llwybr; yn brathu sodlau'r march, fel y syrthio ei farchog yn ôl.

18. Am dy iachawdwriaeth di y disgwyliais, Arglwydd.

19. Gad, llu a'i gorfydd; ac yntau a orfydd o'r diwedd.

20. O Aser bras fydd ei fwyd ef, ac efe a rydd ddanteithion brenhinol.

21. Nafftali fydd ewig wedi ei gollwng, yn rhoddi geiriau teg.

22. Joseff fydd gangen ffrwythlon, cangen ffrwythlon wrth ffynnon, ceinciau yn cerdded ar hyd mur.

23. A'r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac a'i casasant ef.

24. Er hynny arhodd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylo a gryfhasant, trwy ddwylo grymus Dduw Jacob: oddi yno y mae y bugail, maen Israel:

25. Trwy Dduw dy dad, yr hwn a'th gynorthwya, a'r Hollalluog, yr hwn a'th fendithia â bendithion y nefoedd oddi uchod, â bendithion y dyfnder yn gorwedd isod, â bendithion y bronnau a'r groth.

26. Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion fy rhieni, hyd derfyn bryniau tragwyddoldeb: byddant ar ben Joseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr.

Genesis 49