Genesis 48:7-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. A phan ddeuthum i o Mesopotamia, bu Rahel farw gyda mi yn nhir Canaan, ar y ffordd, pan oedd eto filltir o dir hyd Effrath: a chleddais hi yno ar ffordd Effrath: honno yw Bethlehem.

8. A gwelodd Israel feibion Joseff, ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn?

9. A Joseff a ddywedodd wrth ei dad, Dyma fy meibion i, a roddodd Duw i mi yma. Yntau a ddywedodd, Dwg hwynt, atolwg, ataf fi, a mi a'u bendithiaf hwynt.

10. Llygaid Israel hefyd oedd drymion gan henaint, fel na allai efe weled; ac efe a'u dygodd hwynt ato ef: yntau a'u cusanodd hwynt, ac a'u cofleidiodd.

11. Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff, Ni feddyliais weled dy wyneb; eto, wele, parodd Duw i mi weled dy had hefyd.

12. A Joseff a'u tynnodd hwynt allan wrth ei liniau ef, ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb.

13. Cymerodd Joseff hefyd hwynt ill dau, Effraim yn ei law ddeau tua llaw aswy Israel, a Manasse yn ei law aswy tua llaw ddeau Israel; ac a'u nesaodd hwynt ato ef.

14. Ac Israel a estynnodd ei law ddeau, ac a'i gosododd ar ben Effraim, (a hwn oedd yr ieuangaf,) a'i law aswy ar ben Manasse: gan gyfarwyddo ei ddwylo trwy wybod; canys Manasse oedd y cynfab.

15. Ac efe a fendithiodd Joseff, ac a ddywedodd, Duw, yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac ger ei fron, Duw, yr hwn a'm porthodd er pan ydwyf, hyd y dydd hwn,

16. Yr angel yr hwn a'm gwaredodd i oddi wrth bob drwg, a fendithio'r llanciau; fy enw hefyd, ac enw fy nhadau Abraham ac Isaac, a alwer arnynt: heigiant hefyd yn lliaws yng nghanol y wlad.

Genesis 48