7. A dug Joseff Jacob ei dad, ac a'i gosododd gerbron Pharo: a Jacob a fendithiodd Pharo.
8. A dywedodd Pharo wrth Jacob, Pa faint yw dyddiau blynyddoedd dy einioes di?
9. A Jacob a ddywedodd wrth Pharo, Dyddiau blynyddoedd fy ymdaith ydynt ddeg ar hugain a chan mlynedd: ychydig a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy einioes, ac ni chyraeddasant ddyddiau blynyddoedd einioes fy nhadau yn nyddiau eu hymdaith hwynt.
10. A bendithiodd Jacob Pharo, ac a aeth allan o ŵydd Pharo.
11. A Joseff a gyfleodd ei dad a'i frodyr, ac a roddes iddynt feddiant yng ngwlad yr Aifft, yng nghwr gorau y wlad, yn nhir Rameses, fel y gorchmynasai Pharo.
12. Joseff hefyd a gynhaliodd ei dad, a'i frodyr, a holl dylwyth ei dad, â bara, yn ôl eu teuluoedd.
13. Ac nid oedd bara yn yr holl wlad: canys y newyn oedd drwm iawn; fel yr oedd gwlad yr Aifft, a gwlad Canaan, yn dyddfu gan y newyn.
14. Joseff hefyd a gasglodd yr holl arian a gawsid yn nhir yr Aifft, ac yn nhir Canaan, am yr ymborth a brynasent hwy: a Joseff a ddug yr arian i dŷ Pharo.
15. Pan ddarfu'r arian yn nhir yr Aifft, ac yng ngwlad Canaan, yr holl Eifftiaid a ddaethant at Joseff, gan ddywedyd, Moes i ni fara: canys paham y byddem ni feirw ger dy fron? oherwydd darfu'r arian.