Genesis 47:3-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A dywedodd Pharo wrth ei frodyr ef, Beth yw eich gwaith chwi? Hwythau a ddywedasant wrth Pharo, Bugeiliaid defaid yw dy weision, nyni a'n tadau hefyd.

4. Dywedasant hefyd wrth Pharo, I orymdaith yn y wlad y daethom, am nad oes borfa i'r defaid gan dy weision; canys trwm yw y newyn yng ngwlad Canaan: ac yr awr hon, atolwg, caed dy weision drigo yn nhir Gosen.

5. A llefarodd Pharo wrth Joseff, gan ddywedyd, Dy dad a'th frodyr a ddaethant atat.

Genesis 47