21. Y bobl hefyd, efe a'u symudodd hwynt i ddinasoedd, o'r naill gwr i derfyn yr Aifft hyd ei chwr arall.
22. Yn unig tir yr offeiriaid ni phrynodd efe: canys rhan oedd i'r offeiriaid wedi ei phennu iddynt gan Pharo, a'u rhan a roddasai Pharo iddynt a fwytasant hwy; am hynny ni werthasant hwy eu tir.
23. Dywedodd Joseff hefyd wrth y bobl, Wele, prynais chwi heddiw, a'ch tir, i Pharo: wele i chwi had, heuwch chwithau y tir.
24. A bydded i chwi roddi i Pharo y bumed ran o'r cnwd; a bydd y pedair rhan i chwi, yn had i'r maes, ac yn ymborth i chwi, ac i'r rhai sydd yn eich tai, ac yn fwyd i'ch rhai bach.
25. A dywedasant, Cedwaist ni yn fyw: gad i ni gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd, a byddwn weision i Pharo.
26. A Joseff a osododd hynny yn ddeddf hyd heddiw ar dir yr Aifft, gael o Pharo y bumed ran; ond o dir yr offeiriaid yn unig, yr hwn nid oedd eiddo Pharo.