Genesis 47:16-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. A dywedodd Joseff, Moeswch eich anifeiliaid; a rhoddaf i chwi am eich anifeiliaid, os darfu'r arian.

17. A hwy a ddygasant eu hanifeiliaid at Joseff: a rhoddes Joseff iddynt fara am y meirch, ac am y diadelloedd defaid, ac am y gyrroedd gwartheg, ac am yr asynnod; ac a'u cynhaliodd hwynt â bara, am eu holl anifeiliaid, dros y flwyddyn honno.

18. A phan ddarfu'r flwyddyn honno, y daethant ato ef yr ail flwyddyn, ac a ddywedasant wrtho, Ni chelwn oddi wrth fy arglwydd ddarfod yr arian, a myned ein hysgrubliaid a'n hanifeiliaid at fy arglwydd; ni adawyd i ni gerbron fy arglwydd onid ein cyrff a'n tir.

19. Paham y byddwn feirw o flaen dy lygaid, nyni a'n tir? prŷn ni a'n tir am fara; a nyni a'n tir a fyddwn gaethion i Pharo: dod dithau i ni had, fel y byddom fyw, ac na fyddom feirw, ac na byddo'r tir yn anghyfannedd.

20. A Joseff a brynodd holl dir yr Aifft i Pharo: canys yr Eifftiaid a werthasant bob un ei faes; oblegid y newyn a gryfhasai arnynt: felly yr aeth y tir i Pharo.

21. Y bobl hefyd, efe a'u symudodd hwynt i ddinasoedd, o'r naill gwr i derfyn yr Aifft hyd ei chwr arall.

22. Yn unig tir yr offeiriaid ni phrynodd efe: canys rhan oedd i'r offeiriaid wedi ei phennu iddynt gan Pharo, a'u rhan a roddasai Pharo iddynt a fwytasant hwy; am hynny ni werthasant hwy eu tir.

23. Dywedodd Joseff hefyd wrth y bobl, Wele, prynais chwi heddiw, a'ch tir, i Pharo: wele i chwi had, heuwch chwithau y tir.

24. A bydded i chwi roddi i Pharo y bumed ran o'r cnwd; a bydd y pedair rhan i chwi, yn had i'r maes, ac yn ymborth i chwi, ac i'r rhai sydd yn eich tai, ac yn fwyd i'ch rhai bach.

25. A dywedasant, Cedwaist ni yn fyw: gad i ni gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd, a byddwn weision i Pharo.

26. A Joseff a osododd hynny yn ddeddf hyd heddiw ar dir yr Aifft, gael o Pharo y bumed ran; ond o dir yr offeiriaid yn unig, yr hwn nid oedd eiddo Pharo.

27. Trigodd Israel hefyd yng ngwlad yr Aifft o fewn tir Gosen, ac a gawsant feddiannau ynddi; cynyddasant hefyd, ac amlhasant yn ddirfawr.

Genesis 47