Genesis 47:10-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A bendithiodd Jacob Pharo, ac a aeth allan o ŵydd Pharo.

11. A Joseff a gyfleodd ei dad a'i frodyr, ac a roddes iddynt feddiant yng ngwlad yr Aifft, yng nghwr gorau y wlad, yn nhir Rameses, fel y gorchmynasai Pharo.

12. Joseff hefyd a gynhaliodd ei dad, a'i frodyr, a holl dylwyth ei dad, â bara, yn ôl eu teuluoedd.

Genesis 47