Genesis 45:22-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. I bob un ohonynt oll y rhoddes bâr o ddillad: ond i Benjamin y rhoddes dri chant o ddarnau arian, a phum pâr o ddillad.

23. Hefyd i'w dad yr anfonodd fel hyn; deg o asynnod yn llwythog o dda yr Aifft, a deg o asennod yn dwyn ŷd, bara, a bwyd i'w dad ar hyd y ffordd.

24. Yna y gollyngodd ymaith ei frodyr: a hwy a aethant ymaith: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Nac ymrysonwch ar y ffordd.

25. Felly yr aethant i fyny o'r Aifft, ac a ddaethant i wlad Canaan, at eu tad Jacob;

Genesis 45