5. Onid dyma'r cwpan yr yfai fy arglwydd ynddo, ac yr arferai ddewiniaeth wrtho? Drwg y gwnaethoch yr hyn a wnaethoch.
6. Yntau a'u goddiweddodd hwynt, ac a ddywedodd y geiriau hynny wrthynt hwy.
7. Y rhai a ddywedasant wrtho yntau, Paham y dywed fy arglwydd y cyfryw eiriau? na ato Duw i'th weision di wneuthur y cyfryw beth.
8. Wele, ni a ddygasom atat ti eilwaith o wlad Canaan yr arian a gawsom yng ngenau ein sachau; pa fodd gan hynny y lladrataem ni arian neu aur o dŷ dy arglwydd di?
9. Yr hwn o'th weision di y ceffir y cwpan gydag ef, bydded hwnnw farw; a ninnau hefyd a fyddwn gaethweision i'm harglwydd.
10. Yntau a ddywedodd, Bydded yn awr fel y dywedasoch chwi: yr hwn y ceffir y cwpan gydag ef a fydd was i mi, a chwithau a fyddwch ddieuog.
11. Hwythau a frysiasant, ac a ddisgynasant bob un ei sach i lawr, ac a agorasant bawb ei ffetan.
12. Yntau a chwiliodd; ar yr hynaf y dechreuodd, ac ar yr ieuangaf y diweddodd: a'r cwpan a gafwyd yn sach Benjamin.
13. Yna y rhwygasant eu dillad, ac a byniasant bawb ar ei asyn, ac a ddychwelasant i'r ddinas.
14. A daeth Jwda a'i frodyr i dŷ Joseff, ac efe eto yno; ac a syrthiasant i lawr ger ei fron ef.
15. A dywedodd Joseff wrthynt, Pa waith yw hwn a wnaethoch chwi? oni wyddech chwi y medr gŵr fel myfi ddewiniaeth?
16. A dywedodd Jwda, Pa beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? pa beth a lefarwn? pa fodd yr ymgyfiawnhawn? cafodd Duw allan anwiredd dy weision: wele ni yn weision i'm harglwydd, ie nyni, a'r hwn y cafwyd y cwpan gydag ef hefyd.
17. Yntau a ddywedodd, Na ato Duw i mi wneuthur hyn: y gŵr y cafwyd y cwpan yn ei law, efe fydd was i mi; ewch chwithau i fyny, mewn heddwch, at eich tad.
18. Yna yr aeth Jwda ato ef, ac a ddywedodd, Fy arglwydd, caffed, atolwg, dy was ddywedyd gair yng nghlustiau fy arglwydd, ac na enynned dy lid wrth dy was: oherwydd yr wyt ti megis Pharo.
19. Fy arglwydd a ymofynnodd â'i weision, gan ddywedyd, A oes i chwi dad, neu frawd?
20. Ninnau a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y mae i ni dad, yn hen ŵr; a phlentyn ei henaint ef, un bychan: a'i frawd a fu farw, ac efe a adawyd ei hunan o'i fam ef; a'i dad sydd hoff ganddo ef.