Genesis 44:3-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Y bore a oleuodd, a'r gwŷr a ollyngwyd ymaith, hwynt a'u hasynnod.

4. Hwythau a aethant allan o'r ddinas. Ac nid aethant nepell, pan ddywedodd Joseff wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Cyfod, a dilyn ar ôl y gwŷr: a phan oddiweddech hwynt, dywed wrthynt, Paham y talasoch ddrwg am dda?

5. Onid dyma'r cwpan yr yfai fy arglwydd ynddo, ac yr arferai ddewiniaeth wrtho? Drwg y gwnaethoch yr hyn a wnaethoch.

6. Yntau a'u goddiweddodd hwynt, ac a ddywedodd y geiriau hynny wrthynt hwy.

7. Y rhai a ddywedasant wrtho yntau, Paham y dywed fy arglwydd y cyfryw eiriau? na ato Duw i'th weision di wneuthur y cyfryw beth.

8. Wele, ni a ddygasom atat ti eilwaith o wlad Canaan yr arian a gawsom yng ngenau ein sachau; pa fodd gan hynny y lladrataem ni arian neu aur o dŷ dy arglwydd di?

Genesis 44