26. Dywedasom ninnau, Nis gallwn fyned i waered: os bydd ein brawd ieuangaf gyda ni, nyni a awn i waered; oblegid ni allwn edrych yn wyneb y gŵr, oni bydd ein brawd ieuangaf gyda ni.
27. A dywedodd dy was fy nhad wrthym ni, Chwi a wyddoch mai dau a blantodd fy ngwraig i mi;
28. Ac un a aeth allan oddi wrthyf fi; minnau a ddywedais, Yn ddiau gan larpio y llarpiwyd ef; ac nis gwelais ef hyd yn hyn:
29. Os cymerwch hefyd hwn ymaith o'm golwg, a digwyddo niwed iddo ef; yna y gwnewch i'm penllwydni ddisgyn mewn gofid i fedd.
30. Bellach gan hynny, pan ddelwyf at dy was fy nhad, heb fod y llanc gyda ni; (gan fod ei hoedl ef ynglŷn wrth ei hoedl yntau;)
31. Yna pan welo efe na ddaeth y llanc, marw fydd efe; a'th weision a barant i benwynnedd dy was ein tad ni ddisgyn mewn gofid i fedd.
32. Oblegid dy was a aeth yn feichiau am y llanc i'm tad, gan ddywedyd, Onis dygaf ef atat ti, yna byddaf euog o fai yn erbyn fy nhad byth.