12. Yntau a chwiliodd; ar yr hynaf y dechreuodd, ac ar yr ieuangaf y diweddodd: a'r cwpan a gafwyd yn sach Benjamin.
13. Yna y rhwygasant eu dillad, ac a byniasant bawb ar ei asyn, ac a ddychwelasant i'r ddinas.
14. A daeth Jwda a'i frodyr i dŷ Joseff, ac efe eto yno; ac a syrthiasant i lawr ger ei fron ef.
15. A dywedodd Joseff wrthynt, Pa waith yw hwn a wnaethoch chwi? oni wyddech chwi y medr gŵr fel myfi ddewiniaeth?
16. A dywedodd Jwda, Pa beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? pa beth a lefarwn? pa fodd yr ymgyfiawnhawn? cafodd Duw allan anwiredd dy weision: wele ni yn weision i'm harglwydd, ie nyni, a'r hwn y cafwyd y cwpan gydag ef hefyd.
17. Yntau a ddywedodd, Na ato Duw i mi wneuthur hyn: y gŵr y cafwyd y cwpan yn ei law, efe fydd was i mi; ewch chwithau i fyny, mewn heddwch, at eich tad.
18. Yna yr aeth Jwda ato ef, ac a ddywedodd, Fy arglwydd, caffed, atolwg, dy was ddywedyd gair yng nghlustiau fy arglwydd, ac na enynned dy lid wrth dy was: oherwydd yr wyt ti megis Pharo.
19. Fy arglwydd a ymofynnodd â'i weision, gan ddywedyd, A oes i chwi dad, neu frawd?
20. Ninnau a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y mae i ni dad, yn hen ŵr; a phlentyn ei henaint ef, un bychan: a'i frawd a fu farw, ac efe a adawyd ei hunan o'i fam ef; a'i dad sydd hoff ganddo ef.
21. Tithau a ddywedaist wrth dy weision, Dygwch ef i waered ataf fi, fel y gosodwyf fy llygaid arno.
22. A ni a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y llanc ni ddichon ymadael â'i dad: oblegid os ymedy efe â'i dad, marw fydd ei dad.
23. Tithau a ddywedaist wrth dy weision, Oni ddaw eich brawd ieuangaf i waered gyda chwi, nac edrychwch yn fy wyneb mwy.
24. Bu hefyd, wedi ein myned ni i fyny at dy was fy nhad, mynegasom iddo ef eiriau fy arglwydd.