9. Myfi a fechnïaf amdano ef; o'm llaw i y gofynni ef: onis dygaf ef atat ti, a'i osod ef ger dy fron di, yna y byddaf euog o fai i'th erbyn byth.
10. Canys, pe na buasem hwyrfrydig, daethem eilchwyl yma ddwy waith bellach.
11. Ac Israel eu tad a ddywedodd wrthynt, Os rhaid yn awr felly, gwnewch hyn; cymerwch o ddewis ffrwythau'r wlad yn eich llestri, a dygwch yn anrheg i'r gŵr, ychydig falm, ac ychydig fêl, llysiau, a myrr, cnau, ac almonau.
12. Cymerwch hefyd ddau cymaint o arian gyda chwi; a dygwch eilwaith gyda chwi yr arian a roddwyd drachefn yng ngenau eich sachau: ond odid amryfusedd fu hynny.
13. Hefyd cymerwch eich brawd, a chyfodwch, ewch eilwaith at y gŵr.
14. A Duw Hollalluog a roddo i chwi drugaredd gerbron y gŵr, fel y gollyngo i chwi eich brawd arall, a Benjamin: minnau fel y'm diblantwyd, a ddiblentir.
15. A'r gwŷr a gymerasant yr anrheg honno, a chymerasant arian yn ddwbl yn eu llaw, a Benjamin hefyd; a chyfodasant, ac a aethant i waered i'r Aifft, a safasant gerbron Joseff.
16. A Joseff a ganfu Benjamin gyda hwynt; ac a ddywedodd wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Dwg y gwŷr hyn i'r tŷ, a lladd laddfa, ac arlwya: oblegid y gwŷr a gânt fwyta gyda myfi ar hanner dydd.
17. A'r gŵr a wnaeth fel y dywedodd Joseff: a'r gŵr a ddug y dynion i dŷ Joseff.
18. A'r gwŷr a ofnasant, pan dducpwyd hwynt i dŷ Joseff; ac a ddywedasant, Oblegid yr arian a roddwyd eilwaith yn ein sachau ni yr amser cyntaf, y ducpwyd nyni i mewn; i fwrw hyn arnom ni, ac i ruthro i ni, ac i'n cymryd ni yn gaethion, a'n hasynnod hefyd.
19. A hwy a nesasant at y gŵr oedd olygwr ar dŷ Joseff, ac a lefarasant wrtho, wrth ddrws y tŷ,
20. Ac a ddywedasant, Fy arglwydd, gan ddisgyn y disgynasom yr amser cyntaf i brynu lluniaeth.
21. A bu, pan ddaethom i'r llety, ac agoryd ein sachau, yna wele arian pob un yng ngenau ei sach; ein harian ni, meddaf, yn ei bwys: ond ni a'i dygasom eilwaith yn ein llaw.