Genesis 42:9-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A Joseff a gofiodd ei freuddwydion a freuddwydiasai efe amdanynt hwy; ac a ddywedodd wrthynt, Ysbïwyr ydych chwi; i edrych noethder y wlad y daethoch.

10. Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Nage, fy arglwydd; ond dy weision a ddaethant i brynu lluniaeth.

11. Nyni oll ydym feibion un gŵr: gwŷr cywir ydym ni; nid yw dy weision di ysbïwyr.

12. Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, Nage; ond i edrych noethder y wlad y daethoch.

Genesis 42