Genesis 42:3-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A deg brawd Joseff a aethant i waered, i brynu ŷd, i'r Aifft.

4. Ond ni ollyngai Jacob Benjamin, brawd Joseff, gyda'i frodyr: oblegid efe a ddywedodd, Rhag digwydd niwed iddo ef.

5. A meibion Israel a ddaethant i brynu ymhlith y rhai oedd yn dyfod; oblegid yr ydoedd y newyn yng ngwlad Canaan.

6. A Joseff oedd lywydd ar y wlad, ac oedd ei hun yn gwerthu i holl bobl y wlad: a brodyr Joseff a ddaethant, ac a ymgrymasant i lawr iddo ef ar eu hwynebau.

7. A Joseff a ganfu ei frodyr, ac a'u hadnabu hwynt, ac a ymddieithrodd iddynt hwy, ac a lefarodd wrthynt yn arw, ac a ddywedodd wrthynt, O ba le y daethoch? Hwythau a atebasant, O wlad Canaan, i brynu lluniaeth.

8. A Joseff oedd yn adnabod ei frodyr; ond nid oeddynt hwy yn ei adnabod ef.

9. A Joseff a gofiodd ei freuddwydion a freuddwydiasai efe amdanynt hwy; ac a ddywedodd wrthynt, Ysbïwyr ydych chwi; i edrych noethder y wlad y daethoch.

10. Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Nage, fy arglwydd; ond dy weision a ddaethant i brynu lluniaeth.

11. Nyni oll ydym feibion un gŵr: gwŷr cywir ydym ni; nid yw dy weision di ysbïwyr.

12. Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, Nage; ond i edrych noethder y wlad y daethoch.

13. Hwythau a ddywedasant, Dy weision di oedd ddeuddeg brawd, meibion un gŵr yng ngwlad Canaan: ac wele, y mae yr ieuangaf heddiw gyda'n tad ni, a'r llall nid yw fyw.

14. A Joseff a ddywedodd wrthynt, Dyma yr hyn a adroddais, wrthych, gan ddywedyd, Ysbïwyr ydych chwi.

15. Wrth hyn y'ch profir: Myn einioes Pharo, nid ewch allan oddi yma, onid trwy ddyfod o'ch brawd ieuangaf yma.

Genesis 42