Genesis 42:26-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Hwythau a gyfodasant eu hŷd ar eu hasynnod, ac a aethant oddi yno.

27. Ac un a agorodd ei sach, ar fedr rhoddi ebran i'w asyn yn y llety; ac a ganfu ei arian; canys wele hwynt yng ngenau ei ffetan ef.

28. Ac a ddywedodd wrth ei frodyr, Rhoddwyd adref fy arian; ac wele hwynt hefyd yn fy ffetan: yna y digalonasant hwy, ac a ofnasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth Duw i ni hyn?

29. A hwy a ddaethant at Jacob eu tad i wlad Canaan; ac a fynegasant iddo ef eu holl ddamweiniau, gan ddywedyd,

30. Dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad yn arw wrthym ni, ac a'n cymerth ni fel ysbïwyr y wlad.

31. Ninnau a ddywedasom wrtho ef, Gwŷr cywir ydym ni; nid ysbïwyr ydym.

32. Deuddeg o frodyr oeddem ni, meibion ein tad ni: un nid yw fyw, ac y mae yr ieuangaf heddiw gyda'n tad ni yng ngwlad Canaan.

33. A dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad wrthym ni, Wrth hyn y caf wybod mai cywir ydych chwi; gadewch gyda myfi un o'ch brodyr, a chymerwch luniaeth i dorri newyn eich teuluoedd, ac ewch ymaith.

34. A dygwch eich brawd ieuangaf ataf fi, fel y gwybyddwyf nad ysbïwyr ydych chwi, ond eich bod yn gywir: yna y rhoddaf eich brawd i chwi, a chewch farchnata yn y wlad.

35. Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau, yna wele godaid arian pob un yn ei sach: a phan welsant y codau arian, hwynt‐hwy a'u tad, ofni a wnaethant.

Genesis 42