Genesis 42:23-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Ac nis gwyddynt hwy fod Joseff yn eu deall; am fod cyfieithydd rhyngddynt.

24. Yntau a drodd oddi wrthynt, ac a wylodd; ac a ddaeth eilchwyl atynt, ac a lefarodd wrthynt hwy, ac a gymerth o'u mysg hwynt Simeon, ac a'i rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt.

25. Joseff hefyd a orchmynnodd lenwi eu sachau hwynt o ŷd, a rhoddi drachefn arian pob un ohonynt yn ei sach, a rhoddi bwyd iddynt i'w fwyta ar y ffordd: ac felly y gwnaeth iddynt hwy.

Genesis 42