Genesis 42:22-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A Reuben a'u hatebodd hwynt, gan ddywedyd, Oni ddywedais i wrthych, gan ddywedyd, Na phechwch yn erbyn yr herlod; ac ni wrandawech chwi? wele am hynny ynteu y gofynnir ei waed ef.

23. Ac nis gwyddynt hwy fod Joseff yn eu deall; am fod cyfieithydd rhyngddynt.

24. Yntau a drodd oddi wrthynt, ac a wylodd; ac a ddaeth eilchwyl atynt, ac a lefarodd wrthynt hwy, ac a gymerth o'u mysg hwynt Simeon, ac a'i rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt.

Genesis 42