49. A Joseff a gynullodd ŷd fel tywod y môr, yn dra lluosog, hyd oni pheidiodd â'i rifo: oblegid yr ydoedd heb rifedi.
50. Ond cyn dyfod blwyddyn o newyn, y ganwyd i Joseff ddau fab, y rhai a ymddûg Asnath, merch Potiffera offeiriad On, iddo ef.
51. A Joseff a alwodd enw ei gyntaf‐anedig, Manasse: Oblegid (eb efe) Duw a wnaeth i mi anghofio fy llafur oll, a thylwyth fy nhad oll.
52. Ac efe a alwodd enw yr ail, Effraim: Oblegid (eb efe) Duw a'm ffrwythlonodd i yng ngwlad fy ngorthrymder.
53. Darfu'r saith mlynedd o amldra, y rhai a fu yng ngwlad yr Aifft.
54. A'r saith mlynedd newyn a ddechreuasant ddyfod, fel y dywedasai Joseff: ac yr oedd newyn yn yr holl wledydd; ond yn holl wlad yr Aifft yr ydoedd bara.
55. A phan newynodd holl wlad yr Aifft, y bobl a waeddodd ar Pharo am fara: a Pharo a ddywedodd wrth yr holl Eifftiaid, Ewch at Joseff; yr hyn a ddywedo efe wrthych, gwnewch.
56. Y newyn hefyd ydoedd ar holl wyneb y ddaear: a Joseff a agorodd yr holl leoedd yr ydoedd ŷd ynddynt, ac a werthodd i'r Eifftiaid; oblegid y newyn oedd drwm yng ngwlad yr Aifft.