Genesis 41:46-57 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

46. A Joseff ydoedd fab deng mlwydd ar hugain pan safodd efe gerbron Pharo brenin yr Aifft: a Joseff a aeth allan o ŵydd Pharo, ac a dramwyodd trwy holl wlad yr Aifft.

47. A'r ddaear a gnydiodd dros saith mlynedd yr amldra yn ddyrneidiau.

48. Yntau a gasglodd holl ymborth y saith mlynedd a fu yng ngwlad yr Aifft, ac a roddes ymborth i gadw yn y dinasoedd: ymborth y maes, yr hwn fyddai o amgylch pob dinas, a roddes efe i gadw ynddi.

49. A Joseff a gynullodd ŷd fel tywod y môr, yn dra lluosog, hyd oni pheidiodd â'i rifo: oblegid yr ydoedd heb rifedi.

50. Ond cyn dyfod blwyddyn o newyn, y ganwyd i Joseff ddau fab, y rhai a ymddûg Asnath, merch Potiffera offeiriad On, iddo ef.

51. A Joseff a alwodd enw ei gyntaf‐anedig, Manasse: Oblegid (eb efe) Duw a wnaeth i mi anghofio fy llafur oll, a thylwyth fy nhad oll.

52. Ac efe a alwodd enw yr ail, Effraim: Oblegid (eb efe) Duw a'm ffrwythlonodd i yng ngwlad fy ngorthrymder.

53. Darfu'r saith mlynedd o amldra, y rhai a fu yng ngwlad yr Aifft.

54. A'r saith mlynedd newyn a ddechreuasant ddyfod, fel y dywedasai Joseff: ac yr oedd newyn yn yr holl wledydd; ond yn holl wlad yr Aifft yr ydoedd bara.

55. A phan newynodd holl wlad yr Aifft, y bobl a waeddodd ar Pharo am fara: a Pharo a ddywedodd wrth yr holl Eifftiaid, Ewch at Joseff; yr hyn a ddywedo efe wrthych, gwnewch.

56. Y newyn hefyd ydoedd ar holl wyneb y ddaear: a Joseff a agorodd yr holl leoedd yr ydoedd ŷd ynddynt, ac a werthodd i'r Eifftiaid; oblegid y newyn oedd drwm yng ngwlad yr Aifft.

57. A daeth yr holl wledydd i'r Aifft at Joseff i brynu; oherwydd y newyn oedd drwm yn yr holl wledydd.

Genesis 41