35. A chasglant holl ymborth y blynyddoedd daionus sydd ar ddyfod, a chasglant ŷd dan law Pharo, a chadwant ymborth yn y dinasoedd.
36. A bydded yr ymborth yng nghadw i'r wlad dros y saith mlynedd newyn, y rhai fyddant yng ngwlad yr Aifft, fel na ddifether y wlad gan y newyn.
37. A'r peth oedd dda yng ngolwg Pharo, ac yng ngolwg ei holl weision.
38. A dywedodd Pharo wrth ei weision, A gaem ni ŵr fel hwn, yr hwn y mae ysbryd Duw ynddo?
39. Dywedodd Pharo hefyd wrth Joseff, Gan wneuthur o Dduw i ti wybod hyn oll, nid mor ddeallgar a doeth neb â thydi.
40. Tydi a fyddi ar fy nhŷ, ac wrth dy air di y llywodraethir fy mhobl oll: yn y deyrngadair yn unig y byddaf fwy na thydi.
41. Yna y dywedodd Pharo wrth Joseff, Edrych, gosodais di ar holl wlad yr Aifft.
42. A thynnodd Pharo ei fodrwy oddi ar ei law, ac a'i rhoddes hi ar law Joseff, ac a'i gwisgodd ef mewn gwisgoedd sidan, ac a osododd gadwyn aur am ei wddf ef;
43. Ac a wnaeth iddo farchogaeth yn yr ail gerbyd oedd ganddo; a llefwyd o'i flaen ef, Abrec: felly y gosodwyd ef ar holl wlad yr Aifft.
44. Dywedodd Pharo hefyd wrth Joseff, Myfi yw Pharo, ac hebot ti ni chyfyd gŵr ei law na'i droed, trwy holl wlad yr Aifft.
45. A Pharo a alwodd enw Joseff, Saffnath‐Panea; ac a roddes iddo Asnath, merch Potiffera offeiriad On, yn wraig: yna yr aeth Joseff allan dros wlad yr Aifft.
46. A Joseff ydoedd fab deng mlwydd ar hugain pan safodd efe gerbron Pharo brenin yr Aifft: a Joseff a aeth allan o ŵydd Pharo, ac a dramwyodd trwy holl wlad yr Aifft.
47. A'r ddaear a gnydiodd dros saith mlynedd yr amldra yn ddyrneidiau.