Genesis 41:3-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Wele hefyd, saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt o'r afon, yn ddrwg yr olwg, ac yn gulion o gig; a hwy a safasant yn ymyl y gwartheg eraill, ar lan yr afon.

4. A'r gwartheg drwg yr olwg, a chulion o gig, a fwytasant y saith gwartheg teg yr olwg, a breision. Yna y dihunodd Pharo.

5. Ac efe a gysgodd, ac a freuddwydiodd eilwaith: ac wele, saith o dywysennau yn tyfu ar un gorsen, o rai breisgion a da.

6. Wele hefyd, saith o dywysennau teneuon, ac wedi deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu allan ar eu hôl hwynt.

7. A'r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen fraisg a llawn. A deffrôdd Pharo; ac wele breuddwyd oedd.

8. A'r bore y bu i'w ysbryd ef gynhyrfu; ac efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aifft a'i holl ddoethion hi: a Pharo a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion; ond nid oedd a'u dehonglai hwynt i Pharo.

9. Yna y llefarodd y pen‐trulliad wrth Pharo, gan ddywedyd, Yr wyf fi yn cofio fy meiau heddiw.

10. Llidio a wnaethai Pharo wrth ei weision; ac efe a'm rhoddes mewn carchar yn nhŷ'r distain, myfi a'r pen‐pobydd.

11. A ni a freuddwydiasom freuddwyd yn yr un nos, mi ac efe: breuddwydiasom bob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd.

12. Ac yr oedd yno gyda nyni fab ieuanc o Hebread, gwas i'r distain; a ni a fynegasom iddo ef: yntau a ddehonglodd i ni ein breuddwydion; i bob un yn ôl ei freuddwyd y dehonglodd efe.

13. A darfu, fel y dehonglodd i ni, felly y bu: rhodd fi eilwaith i'm swydd; ac yntau a grogodd efe.

14. Pharo, gan hynny, a anfonodd ac a alwodd am Joseff: hwythau ar redeg a'i cyrchasant ef o'r carchar: yntau a eilliodd ei wallt, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth at Pharo.

15. A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Breuddwydiais freuddwyd, ac nid oes a'i dehonglo: a myfi a glywais ddywedyd amdanat ti, y medri ddeall breuddwyd i'w ddehongli.

16. A Joseff a atebodd Pharo, gan ddywedyd, Nid myfi; Duw a etyb lwyddiant i Pharo.

17. A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon.

18. Ac wele yn esgyn o r afon saith o wartheg tewion o gig, a theg yr olwg; ac mewn gweirglodd‐dir y porent.

19. Wele hefyd saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt, truain, a drwg iawn yr olwg, ac yn gulion o gig: ni welais rai cynddrwg â hwynt yn holl dir yr Aifft.

20. A'r gwartheg culion a drwg a fwytasant y saith muwch tewion cyntaf.

Genesis 41