Genesis 41:25-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. A dywedodd Joseff wrth Pharo, Breuddwyd Pharo sydd un yr hyn y mae Duw yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharo.

26. Y saith o wartheg teg, saith mlynedd ydynt; a'r saith dywysen deg, saith mlynedd ydynt y breuddwyd un yw.

27. Hefyd y saith muwch culion a drwg, y rhai oedd yn esgyn ar eu hôl hwynt, saith mlynedd ydynt; a'r saith dywysen wag wedi deifio gan y dwyreinwynt, a fyddant saith mlynedd o newyn.

28. Hyn yw'r peth a ddywedais i wrth Pharo: Yr hyn a wna Duw, efe a'i dangosodd i Pharo.

29. Wele y mae saith mlynedd yn dyfod o amldra mawr, trwy holl wlad yr Aifft.

30. Ond ar eu hôl hwynt y cyfyd saith mlynedd o newyn; ac anghofir yr holl amlder trwy wlad yr Aifft: a'r newyn a ddifetha'r wlad.

31. Ac ni wybyddir oddi wrth yr amldra yn y wlad, oherwydd y newyn hwnnw wedi hynny: oblegid trwm iawn fydd.

32. Hefyd am ddyblu'r breuddwyd i Pharo ddwywaith, hynny a fu oblegid sicrhau'r peth gan Dduw, a bod Duw yn brysio i'w wneuthur.

33. Yn awr, gan hynny, edryched Pharo am ŵr deallgar a doeth, a gosoded ef ar wlad yr Aifft.

34. Gwnaed Pharo hyn, a gosoded olygwyr ar y wlad, a chymered bumed ran cnwd gwlad yr Aifft dros saith mlynedd yr amldra.

35. A chasglant holl ymborth y blynyddoedd daionus sydd ar ddyfod, a chasglant ŷd dan law Pharo, a chadwant ymborth yn y dinasoedd.

Genesis 41