Genesis 41:12-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Ac yr oedd yno gyda nyni fab ieuanc o Hebread, gwas i'r distain; a ni a fynegasom iddo ef: yntau a ddehonglodd i ni ein breuddwydion; i bob un yn ôl ei freuddwyd y dehonglodd efe.

13. A darfu, fel y dehonglodd i ni, felly y bu: rhodd fi eilwaith i'm swydd; ac yntau a grogodd efe.

14. Pharo, gan hynny, a anfonodd ac a alwodd am Joseff: hwythau ar redeg a'i cyrchasant ef o'r carchar: yntau a eilliodd ei wallt, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth at Pharo.

15. A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Breuddwydiais freuddwyd, ac nid oes a'i dehonglo: a myfi a glywais ddywedyd amdanat ti, y medri ddeall breuddwyd i'w ddehongli.

16. A Joseff a atebodd Pharo, gan ddywedyd, Nid myfi; Duw a etyb lwyddiant i Pharo.

17. A Pharo a ddywedodd wrth Joseff, Wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon.

18. Ac wele yn esgyn o r afon saith o wartheg tewion o gig, a theg yr olwg; ac mewn gweirglodd‐dir y porent.

19. Wele hefyd saith o wartheg eraill yn esgyn ar eu hôl hwynt, truain, a drwg iawn yr olwg, ac yn gulion o gig: ni welais rai cynddrwg â hwynt yn holl dir yr Aifft.

20. A'r gwartheg culion a drwg a fwytasant y saith muwch tewion cyntaf.

21. Ac er eu myned i'w boliau, ni wyddid iddynt fyned i'w boliau; ond yr olwg arnynt oedd ddrwg, megis yn y dechreuad. Yna mi a ddeffroais.

22. Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd, ac wele saith dywysen lawn a theg yn cyfodi o'r un gorsen.

23. Ac wele saith o dywys mân, teneuon, wedi deifio gan ddwyreinwynt, yn tyfu ar eu hôl hwynt.

24. A'r tywysennau teneuon a lyncasant y saith dywysen dda; a mi a ddywedais hyn wrth y dewiniaid; ond nid oedd a'i dehonglai i mi.

25. A dywedodd Joseff wrth Pharo, Breuddwyd Pharo sydd un yr hyn y mae Duw yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharo.

26. Y saith o wartheg teg, saith mlynedd ydynt; a'r saith dywysen deg, saith mlynedd ydynt y breuddwyd un yw.

27. Hefyd y saith muwch culion a drwg, y rhai oedd yn esgyn ar eu hôl hwynt, saith mlynedd ydynt; a'r saith dywysen wag wedi deifio gan y dwyreinwynt, a fyddant saith mlynedd o newyn.

28. Hyn yw'r peth a ddywedais i wrth Pharo: Yr hyn a wna Duw, efe a'i dangosodd i Pharo.

29. Wele y mae saith mlynedd yn dyfod o amldra mawr, trwy holl wlad yr Aifft.

30. Ond ar eu hôl hwynt y cyfyd saith mlynedd o newyn; ac anghofir yr holl amlder trwy wlad yr Aifft: a'r newyn a ddifetha'r wlad.

31. Ac ni wybyddir oddi wrth yr amldra yn y wlad, oherwydd y newyn hwnnw wedi hynny: oblegid trwm iawn fydd.

32. Hefyd am ddyblu'r breuddwyd i Pharo ddwywaith, hynny a fu oblegid sicrhau'r peth gan Dduw, a bod Duw yn brysio i'w wneuthur.

Genesis 41