Genesis 40:6-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A'r bore y daeth Joseff atynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist.

7. Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharo, y rhai oedd gydag ef mewn dalfa yn nhŷ ei arglwydd, gan ddywedyd, Paham y mae eich wynebau yn ddrwg heddiw?

8. A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a'i dehonglo. A Joseff a ddywedodd wrthynt, Onid i Dduw y perthyn dehongli? mynegwch, atolwg, i mi.

9. A'r pen‐trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseff; ac a ddywedodd wrtho, Yn fy mreuddwyd yr oeddwn, ac wele winwydden o'm blaen;

10. Ac yn y winwydden yr oedd tair cainc: ac yr oedd hi megis yn blaen‐darddu; ei blodeuyn a dorasai allan, ei grawnsypiau hi a ddug rawnwin aeddfed.

11. Hefyd yr oedd cwpan Pharo yn fy llaw: a chymerais y grawnwin, a gwesgais hwynt i gwpan Pharo; a rhoddais y cwpan yn llaw Pharo.

12. A Joseff a ddywedodd wrtho, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw'r tair cainc.

13. O fewn tri diwrnod eto Pharo a ddyrchafa dy ben di, ac a'th rydd di eilwaith yn dy le; a rhoddi gwpan Pharo yn ei law ef, fel y buost arferol yn y cyntaf, pan oeddit drulliad iddo.

14. Eto cofia fi gyda thi, pan fo daioni i ti, a gwna, atolwg, â mi drugaredd, a chofia fi wrth Pharo, a dwg fi allan o'r tŷ hwn:

15. Oblegid yn lladrad y'm lladratawyd o wlad yr Hebreaid; ac yma hefyd ni wneuthum ddim, fel y bwrient fi yng ngharchar.

16. Pan welodd y pen‐pobydd mai da oedd y dehongliad, efe a ddywedodd wrth Joseff, Minnau hefyd oeddwn yn fy mreuddwyd; ac wele, dri chawell rhwyd‐dyllog ar fy mhen.

17. Ac yn y cawell uchaf yr oedd peth o bob bwyd Pharo o waith pobydd; a'r ehediaid yn eu bwyta hwynt o'r cawell oddi ar fy mhen.

Genesis 40