Genesis 40:20-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Ac ar y trydydd dydd yr oedd dydd genedigaeth Pharo: ac efe a wnaeth wledd i'w holl weision: ac efe a ddyrchafodd ben y pen‐trulliad, a'r pen‐pobydd ymysg ei weision.

21. Ac a osododd y pen‐trulliad eilwaith yn ei swydd; ac yntau a roddes y cwpan i law Pharo.

22. A'r pen‐pobydd a grogodd efe; fel y deonglasai Joseff iddynt hwy.

23. Ond y pen‐trulliad ni chofiodd Joseff, eithr anghofiodd ef.

Genesis 40