Genesis 4:13-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd, Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddau.

14. Wele, gyrraist fi heddiw oddi ar wyneb y ddaear, ac o'th ŵydd di y'm cuddir: gwibiad hefyd a chrwydriad fyddaf ar y ddaear; a phwy bynnag a'm caffo a'm lladd.

15. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Am hynny y dielir yn saith ddyblyg ar bwy bynnag a laddo Cain. A'r Arglwydd a osododd nod ar Cain, rhag i neb a'i caffai ei ladd ef.

16. A Chain a aeth allan o ŵydd yr Arglwydd, ac a drigodd yn nhir Nod, o'r tu dwyrain i Eden.

17. Cain hefyd a adnabu ei wraig; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Enoch: yna yr ydoedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd enw y ddinas yn ôl enw ei fab, Enoch.

18. Ac i Enoch y ganwyd Irad: ac Irad a genhedlodd Mehwiael, a Mehwiael a genhedlodd Methwsael, a Methwsael a genhedlodd Lamech.

19. A Lamech a gymerodd iddo ddwy o wragedd: enw y gyntaf oedd Ada, ac enw yr ail Sila.

20. Ac Ada a esgorodd ar Jabal; hwn ydoedd dad pob preswylydd pabell, a pherchen anifail.

21. Ac enw ei frawd ef oedd Jwbal; ac efe oedd dad pob teimlydd telyn ac organ.

22. Sila hithau a esgorodd ar Tubal‐Cain, gweithydd pob cywreinwaith pres a haearn: a chwaer Tubal‐Cain ydoedd Naama.

Genesis 4