Genesis 39:21-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Ond yr Arglwydd oedd gyda Joseff, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo yng ngolwg pennaeth y carchardy.

22. A phennaeth y carchardy a roddes dan law Joseff yr holl garcharorion y rhai oedd yn y carchardy; a pha beth bynnag a wnaent yno, efe oedd yn ei wneuthur.

23. Nid oedd pennaeth y carchardy yn edrych am ddim oll a'r a oedd dan ei law ef, am fod yr Arglwydd gydag ef; a'r hyn a wnâi efe, yr Arglwydd a'i llwyddai.

Genesis 39