16. Ac efe a drodd ati hi i'r ffordd, ac a ddywedodd, Tyred, atolwg, gad i mi ddyfod atat: (oblegid nid oedd efe yn gwybod mai ei waudd ef ydoedd hi.) Hithau a ddywedodd, Beth a roddi i mi, os cei ddyfod ataf?
17. Yntau a ddywedodd, Mi a hebryngaf fyn gafr o blith y praidd. Hithau a ddywedodd, A roddi di wystl hyd oni hebryngech?
18. Yntau a ddywedodd, Pa wystl a roddaf i ti? Hithau a ddywedodd, Dy sêl, a'th freichledau, a'th ffon sydd yn dy law. Ac efe a'u rhoddes iddi, ac a aeth ati; a hi a feichiogodd ohono ef.
19. Yna y cyfododd hi, ac a aeth ymaith, ac a ddiosgodd ei gorchudd oddi amdani, ac a wisgodd ddillad ei gweddwdod.
20. A Jwda a hebryngodd fyn gafr yn llaw yr Adulamiad ei gyfaill, i gymryd y gwystl o law y wraig: ond ni chafodd hwnnw hi.
21. Ac efe a ymofynnodd â gwŷr y fro honno, gan ddywedyd, Pa le y mae y butain honno a ydoedd yn Enaim wrth y ffordd? A hwythau a ddywedasant, Nid oedd yma un butain.
22. Ac efe a ddychwelodd at Jwda ac a ddywedodd, Ni chefais hi; a gwŷr y fro honno hefyd a ddywedasant, Nid oedd yma un butain.
23. A Jwda a ddywedodd, Cymered iddi hi, rhag i ni gael cywilydd: wele, mi a hebryngais y myn hwn, a thithau ni chefaist hi.