Genesis 37:34-36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

34. A Jacob a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachlen am ei lwynau, ac a alarodd am ei fab ddyddiau lawer.

35. A'i holl feibion, a'i holl ferched, a godasant i'w gysuro ef; ond efe a wrthododd gymryd cysur, ac a ddywedodd, Yn ddiau disgynnaf yn alarus at fy mab i'r beddrod: a'i dad a wylodd amdano ef.

36. A'r Midianiaid a'i gwerthasant ef i'r Aifft, i Potiffar tywysog Pharo, a'r distain.

Genesis 37