Genesis 37:10-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Ac efe a'i mynegodd i'w dad, ac i'w frodyr. A'i dad a feiodd arno, ac a ddywedodd wrtho, Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti? Ai gan ddyfod y deuwn ni, mi, a'th fam, a'th frodyr, i ymgrymu i lawr i ti?

11. A'i frodyr a genfigenasant wrtho ef; ond ei dad a ddaliodd ar y peth.

12. A'i frodyr a aethant i fugeilia praidd eu tad, yn Sichem.

13. Ac Israel a ddywedodd wrth Joseff, Onid yw dy frodyr yn bugeilio yn Sichem? Tyred, a mi a'th anfonaf atynt. Yntau a ddywedodd wrtho, Wele fi.

14. A dywedodd wrtho, Dos weithian, edrych pa lwyddiant sydd i'th frodyr, a pha lwyddiant sydd i'r praidd; a dwg eilchwyl air i mi. Felly efe a'i hanfonodd ef o ddyffryn Hebron; ac efe a ddaeth i Sichem.

15. A chyfarfu gŵr ag ef; ac wele efe yn crwydro yn y maes: a'r gŵr a ymofynnodd ag ef, gan ddywedyd, Pa beth yr wyt ti yn ei geisio?

16. Yntau a ddywedodd, Ceisio fy mrodyr yr ydwyf fi; mynega, atolwg, i mi, pa le y maent hwy yn bugeilio?

17. A'r gŵr a ddywedodd, Hwy a aethant oddi yma; oblegid mi a'u clywais hwy yn dywedyd, Awn i Dothan. A Joseff a aeth ar ôl ei frodyr, ac a'u cafodd hwynt yn Dothan.

18. Hwythau a'i canfuant ef o bell; a chyn ei ddynesu ef atynt, hwy a gyd‐fwriadasant yn ei erbyn ef, i'w ladd ef.

19. A dywedasant wrth ei gilydd, Wele y breuddwydiwr yn dyfod.

20. Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn un o'r pydewau; a dywedwn, Bwystfil drwg a'i bwytaodd ef: yna y cawn weled beth a ddaw o'i freuddwydion ef.

21. A Reuben a glybu, ac a'i hachubodd ef o'u llaw hwynt; ac a ddywedodd, Na laddwn ef.

22. Reuben a ddywedodd hefyd wrthynt, Na thywelltwch waed; bwriwch ef i'r pydew hwn sydd yn yr anialwch, ac nac estynnwch law arno: fel yr achubai ef o'u llaw hwynt, i'w ddwyn eilwaith at ei dad.

23. A bu, pan ddaeth Joseff at ei frodyr, iddynt ddiosg ei siaced oddi am Joseff, sef y siaced fraith ydoedd amdano ef.

Genesis 37