Genesis 36:9-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A dyma genedlaethau Esau tad yr Edomiaid ym mynydd Seir.

10. Dyma enwau meibion Esau: Eliffas, mab Ada gwraig Esau; Reuel, mab Basemath gwraig Esau.

11. A meibion Eliffas oedd Teman, Omar, Seffo, a Gatam, a Chenas.

12. A Thimna oedd ordderchwraig i Eliffas, mab Esau, ac a esgorodd Amalec i Eliffas: dyma feibion Ada gwraig Esau.

13. A dyma feibion Reuel; Nahath a Sera, Samma a Missa: y rhai hyn oedd feibion Basemath gwraig Esau.

Genesis 36