Genesis 34:23-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Eu hanifeiliaid hwynt, a'u cyfoeth hwynt, a'u holl ysgrubliaid hwynt, onid eiddom ni fyddant hwy? yn unig cytunwn â hwynt, a hwy a drigant gyda ni.

24. Ac ar Hemor, ac ar Sichem ei fab ef, y gwrandawodd pawb a'r a oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef: ac enwaedwyd pob gwryw, sef y rhai oll oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef.

25. A bu ar y trydydd dydd, pan oeddynt hwy yn ddolurus, gymryd o ddau o feibion Jacob, Simeon a Lefi, brodyr Dina, bob un ei gleddyf, a dyfod ar y ddinas yn hyderus, a lladd pob gwryw.

26. Lladdasant hefyd Hemor a Sichem ei fab â min y cleddyf; a chymerasant Dina o dŷ Sichem, ac a aethant allan.

27. Meibion Jacob a ddaethant ar y lladdedigion, ac a ysbeiliasant y ddinas, am halogi ohonynt eu chwaer hwynt.

28. Cymerasant eu defaid hwynt, a'u gwartheg, a'u hasynnod hwynt, a'r hyn oedd yn y ddinas, a'r hyn oedd yn y maes,

29. A'u holl gyfoeth hwynt; a'u holl rai bychain, a'u gwragedd, a gaethgludasant hwy; ac ysbeiliasant yr hyn oll oedd yn y tai.

30. A Jacob a ddywedodd wrth Simeon a Lefi, Trallodasoch fi, gan beri i mi fod yn ffiaidd gan breswylwyr y wlad, gan y Canaaneaid a'r Pheresiaid: a minnau yn ychydig o nifer, hwy a ymgasglant yn fy erbyn, a thrawant fi: felly y difethir fi, mi a'm tŷ.

31. Hwythau a atebasant, Ai megis putain y gwnâi efe ein chwaer ni?

Genesis 34