12. Gosodwch arnaf fi ddirfawr gynhysgaeth a rhodd, a mi a roddaf fel y dywedoch wrthyf: rhoddwch chwithau y llances i mi yn wraig.
13. A meibion Jacob a atebasant Sichem, a Hemor ei dad ef, yn dwyllodrus, ac a ddywedasant, oherwydd iddo ef halogi Dina eu chwaer hwynt;
14. Ac a ddywedasant wrthynt, Ni allwn wneuthur y peth hyn, gan roddi ein chwaer i ŵr dienwaededig: oblegid gwarthrudd yw hynny i ni.
15. Ond yn hyn y cytunwn â chwi: Os byddwch fel nyni, gan enwaedu pob gwryw i chwi;
16. Yna y rhoddwn ein merched ni i chwi, ac y cymerwn eich merched chwithau i ninnau, a ni a gyd‐drigwn â chwi, a ni a fyddwn yn un bobl.
17. Ond oni wrandewch arnom ni i'ch enwaedu; yna y cymerwn ein merch, ac a awn ymaith.
18. A'u geiriau hwynt oedd dda yng ngolwg Hemor, ac yng ngolwg Sichem mab Hemor.
19. Ac nid oedodd y llanc wneuthur y peth, oblegid efe a roddasai serch ar ferch Jacob: ac yr oedd efe yn anrhydeddusach na holl dŷ ei dad.
20. A Hemor, a Sichem ei fab ef, a aethant i borth eu dinas, ac a lefarasant wrth eu dinasyddion, gan ddywedyd,
21. Y gwŷr hyn heddychol ŷnt hwy gyda ni; trigant hwythau yn y wlad, a gwnânt eu negesau ynddi; a'r wlad, wele, sydd ddigon eang iddynt hwy: cymerwn eu merched hwynt i ni yn wragedd, a rhoddwn ein merched ninnau iddynt hwy.
22. Ond yn hyn y cytuna y dynion â ni, i drigo gyda ni, ar fod yn un bobl, os enwaedir pob gwryw i ni, fel y maent hwy yn enwaededig.