Genesis 34:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Dina merch Lea, yr hon a ymddygasai hi i Jacob, a aeth allan i weled merched y wlad.

2. A Sichem mab Hemor yr Hefiad, tywysog y wlad, a'i canfu hi, ac a'i cymerth hi, ac a orweddodd gyda hi, ac a'i treisiodd.

3. A'i enaid ef a lynodd wrth Dina merch Jacob; ie, efe a hoffodd y llances, ac a ddywedodd wrth fodd calon y llances.

4. Sichem hefyd a lefarodd wrth Hemor ei dad, gan ddywedyd, Cymer y llances hon yn wraig i mi.

5. A Jacob a glybu i Sichem halogi Dina ei ferch: (a'i feibion ef oedd gyda'i anifeiliaid ef yn y maes); a Jacob a dawodd â sôn hyd oni ddaethant hwy adref.

6. A Hemor tad Sichem a aeth allan at Jacob, i ymddiddan ag ef.

7. A meibion Jacob a ddaethant o'r maes, wedi clywed ohonynt; a'r gwŷr a ymofidiasant, a digiasant yn ddirfawr, oblegid gwneuthur o Sichem ffolineb yn Israel, gan orwedd gyda merch Jacob; canys ni ddylesid gwneuthur felly.

8. A Hemor a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Glynu a wnaeth enaid Sichem fy mab i wrth eich merch chwi: rhoddwch hi, atolwg, yn wraig iddo ef.

9. Ac ymgyfathrechwch â ni; rhoddwch eich merched chwi i ni, a chymerwch ein merched ni i chwithau.

10. A chwi a gewch breswylio gyda ni, a'r wlad fydd o'ch blaen chwi: trigwch a negeseuwch ynddi, a cheisiwch feddiannau ynddi.

11. Sichem hefyd a ddywedodd wrth ei thad hi, ac wrth ei brodyr, Caffwyf ffafr yn eich golwg, a'r hyn a ddywedoch wrthyf a roddaf.

12. Gosodwch arnaf fi ddirfawr gynhysgaeth a rhodd, a mi a roddaf fel y dywedoch wrthyf: rhoddwch chwithau y llances i mi yn wraig.

13. A meibion Jacob a atebasant Sichem, a Hemor ei dad ef, yn dwyllodrus, ac a ddywedasant, oherwydd iddo ef halogi Dina eu chwaer hwynt;

Genesis 34