Genesis 33:16-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir.

17. A Jacob a gerddodd i Succoth, ac a adeiladodd iddo dŷ, ac a wnaeth fythod i'w anifeiliaid: am hynny efe a alwodd enw y lle Succoth.

18. Hefyd Jacob a ddaeth yn llwyddiannus i ddinas Sichem, yr hon sydd yng ngwlad Canaan, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a wersyllodd o flaen y ddinas.

19. Ac a brynodd ran o'r maes y lledasai ei babell ynddo, o law meibion Hemor tad Sichem, am gan darn o arian:

Genesis 33