Genesis 30:21-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Ac wedi hynny hi a esgorodd ar ferch, ac a alwodd ei henw hi Dina.

22. A Duw a gofiodd Rahel, a Duw a wrandawodd arni, ac a agorodd ei chroth hi.

23. A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Duw a dynnodd fy ngwarthrudd ymaith.

24. A hi a alwodd ei enw ef Joseff, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a ddyry yn ychwaneg i mi fab arall.

Genesis 30