7. Yna y dywedodd efe, Wele eto y dydd yn gynnar, nid yw bryd casglu'r anifeiliaid dyfrhewch y praidd, ac ewch, a bugeiliwch.
8. A hwy a ddywedasant, Ni allwn ni, hyd oni chasgler yr holl ddiadelloedd, a threiglo ohonynt y garreg oddi ar wyneb y pydew; yna y dyfrhawn y praidd.
9. Tra yr ydoedd efe eto yn llefaru wrthynt, daeth Rahel hefyd gyda'r praidd oedd eiddo ei thad; oblegid hi oedd yn bugeilio.
10. A phan welodd Jacob Rahel ferch Laban brawd ei fam, a phraidd Laban brawd ei fam; yna y nesaodd Jacob, ac a dreiglodd y garreg oddi ar enau'r pydew, ac a ddyfrhaodd braidd Laban brawd ei fam.
11. A Jacob a gusanodd Rahel, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.
12. A mynegodd Jacob i Rahel, mai brawd ei thad oedd efe, ac mai mab Rebeca oedd efe: hithau a redodd, ac a fynegodd i'w thad.
13. A phan glybu Laban hanes Jacob mab ei chwaer, yna efe a redodd i'w gyfarfod ef, ac a'i cofleidiodd ef, ac a'i cusanodd, ac a'i dug ef i'w dŷ: ac efe a fynegodd i Laban yr holl bethau hyn.
14. A dywedodd Laban wrtho ef, Yn ddiau fy asgwrn i a'm cnawd ydwyt ti. Ac efe a drigodd gydag ef fis o ddyddiau.
15. A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Ai oherwydd mai fy mrawd wyt ti, y'm gwasanaethi yn rhad? mynega i mi beth fydd dy gyflog?
16. Ac i Laban yr oedd dwy o ferched: enw yr hynaf oedd Lea, ac enw yr ieuangaf Rahel.
17. A llygaid Lea oedd weiniaid; ond Rahel oedd deg ei phryd, a glandeg yr olwg.