Genesis 29:20-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Felly Jacob a wasanaethodd am Rahel saith mlynedd: ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydig ddyddiau, am fod yn hoff ganddo efe hi.

21. A dywedodd Jacob wrth Laban, Moes i mi fy ngwraig, (canys cyflawnwyd fy nyddiau,) fel yr elwyf ati hi.

22. A Laban a gasglodd holl ddynion y fan honno, ac a wnaeth wledd.

23. Ond bu yn yr hwyr, iddo gymryd Lea ei ferch, a'i dwyn hi ato ef; ac yntau a aeth ati hi.

24. A Laban a roddodd iddi Silpa ei forwyn, yn forwyn i Lea ei ferch.

25. A bu, y bore, wele Lea oedd hi: yna y dywedodd efe wrth Laban, Paham y gwnaethost hyn i mi? onid am Rahel y'th wasanaethais? a phaham y'm twyllaist?

26. A dywedodd Laban, Ni wneir felly yn ein gwlad ni, gan roddi yr ieuangaf o flaen yr hynaf.

27. Cyflawna di wythnos hon, a ni a roddwn i ti hon hefyd, am y gwasanaeth a wasanaethi gyda mi eto saith mlynedd eraill.

28. A Jacob a wnaeth felly, ac a gyflawnodd ei hwythnos hi: ac efe a roddodd Rahel ei ferch yn wraig iddo.

29. Laban hefyd a roddodd i Rahel ei ferch, Bilha ei forwyn, yn forwyn iddi hi.

30. Ac efe a aeth hefyd at Rahel, ac a hoffodd Rahel yn fwy na Lea, ac a wasanaethodd gydag ef eto saith mlynedd eraill.

Genesis 29