Genesis 29:13-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. A phan glybu Laban hanes Jacob mab ei chwaer, yna efe a redodd i'w gyfarfod ef, ac a'i cofleidiodd ef, ac a'i cusanodd, ac a'i dug ef i'w dŷ: ac efe a fynegodd i Laban yr holl bethau hyn.

14. A dywedodd Laban wrtho ef, Yn ddiau fy asgwrn i a'm cnawd ydwyt ti. Ac efe a drigodd gydag ef fis o ddyddiau.

15. A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Ai oherwydd mai fy mrawd wyt ti, y'm gwasanaethi yn rhad? mynega i mi beth fydd dy gyflog?

Genesis 29