Genesis 27:32-43 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. Ac Isaac ei dad a ddywedodd wrtho, Pwy wyt ti? Yntau a ddywedodd, Myfi yw dy fab, dy gyntaf‐anedig Esau.

33. Ac Isaac a ddychrynodd â dychryn mawr iawn, ac a ddywedodd, Pwy? pa le mae yr hwn a heliodd helfa, ac a'i dug i mi, a mi a fwyteais o'r cwbl cyn dy ddyfod, ac a'i bendithiais ef? bendigedig hefyd fydd efe.

34. Pan glybu Esau eiriau ei dad, efe a waeddodd â gwaedd fawr a chwerw iawn, ac a ddywedodd wrth ei dad, Bendithia fi, ie finnau, fy nhad.

35. Ac efe a ddywedodd, Dy frawd a ddaeth mewn twyll, ac a ddug dy fendith di.

36. Dywedodd yntau, Onid iawn y gelwir ei enw ef Jacob? canys efe a'm disodlodd i ddwy waith bellach: dug fy ngenedigaeth‐fraint; ac wele, yn awr efe a ddygodd fy mendith: dywedodd hefyd, Oni chedwaist gyda thi fendith i minnau?

37. Ac Isaac a atebodd, ac a ddywedodd wrth Esau, Wele, mi a'i gwneuthum ef yn arglwydd i ti, a rhoddais ei holl frodyr yn weision iddo ef; ag ŷd a gwin y cynheliais ef: a pheth a wnaf i tithau, fy mab, weithian?

38. Ac Esau a ddywedodd wrth ei dad, Ai un fendith sydd gennyt, fy nhad? bendithia finnau, finnau hefyd, fy nhad. Felly Esau a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.

39. Yna yr atebodd Isaac ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ym mraster y ddaear y bydd dy breswylfod, ac ymysg gwlith y nefoedd oddi uchod;

40. Wrth dy gleddyf hefyd y byddi fyw, a'th frawd a wasanaethi: ond bydd amser pan feistrolech di, ac y torrech ei iau ef oddi am dy wddf.

41. Ac Esau a gasaodd Jacob, am y fendith â'r hon y bendithiasai ei dad ef: ac Esau a ddywedodd yn ei galon, Nesáu y mae dyddiau galar fy nhad; yna lladdaf Jacob fy mrawd.

42. A mynegwyd i Rebeca eiriau Esau ei mab hynaf. Hithau a anfonodd, ac a alwodd am Jacob ei mab ieuangaf, ac a ddywedodd wrtho, Wele, Esau dy frawd sydd yn ymgysuro o'th blegid di, ar fedr dy ladd di.

43. Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais: cyfod, ffo at Laban fy mrawd, i Haran;

Genesis 27