32. A'r dydd hwnnw y bu i weision Isaac ddyfod, a mynegi iddo ef o achos y pydew a gloddiasent; a dywedasant wrtho, Cawsom ddwfr.
33. Ac efe a'i galwodd ef Seba: am hynny enw y ddinas yw Beerāseba hyd y dydd hwn.
34. Ac yr oedd Esau yn fab deugain mlwydd, ac efe a gymerodd yn wraig, Judith ferch Beeri yr Hethiad, a Basemath ferch Elon yr Hethiad.
35. A hwy oeddynt chwerwder ysbryd i Isaac ac i Rebeca.