Genesis 26:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A bu newyn yn y tir, heblaw y newyn cyntaf a fuasai yn nyddiau Abraham: ac Isaac a aeth at Abimelech brenin y Philistiaid i Gerar.

2. A'r Arglwydd a ymddangosasai iddo ef, ac a ddywedasai, Na ddos i waered i'r Aifft: aros yn y wlad a ddywedwyf fi wrthyt.

3. Ymdeithia yn y wlad hon, a mi a fyddaf gyda thi, ac a'th fendithiaf: oherwydd i ti ac i'th had y rhoddaf yr holl wledydd hyn, a mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad di.

Genesis 26