Genesis 25:27-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. A'r llanciau a gynyddasant: ac Esau oedd ŵr yn medru hela, a gŵr o'r maes; a Jacob oedd ŵr disyml, yn cyfanheddu mewn pebyll.

28. Isaac hefyd oedd hoff ganddo Esau, am ei fod yn bwyta o'i helwriaeth ef: a Rebeca a hoffai Jacob.

29. A Jacob a ferwodd gawl: yna Esau a ddaeth o'r maes, ac efe yn ddiffygiol.

30. A dywedodd Esau wrth Jacob, Gad i mi yfed, atolwg, o'r cawl coch yma; oherwydd diffygiol wyf fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom.

31. A dywedodd Jacob, Gwerth di heddiw i mi dy enedigaeth‐fraint.

Genesis 25